Mewngofnodwch

E-bost:
Cyfrinair:
 

Polisi Preifatrwydd

Y mae’r polisi preifatrwydd a ganlyn yn rheoli’r defnydd o’r wefan hon (www.flyingstartnetwork.org.uk):

Pa wybodaeth yr ydym yn ei chasglu?

Dim ond defnyddwyr cofrestredig a ganiateir i gyrchu’r wefan. Fe fydd arnoch angen darparu’ch enw llawn a chyfeiriad e-bost inni er mwyn cofrestru fel defnyddiwr. Fe wnawn ddarparu cyfrinair ichi. Nid ydym yn defnyddio’r wybodaeth yr ydych yn ei darparu er mwyn olrhain pwy ydych chi, ac ni wnawn ei drosglwyddo ymlaen i unrhyw drydydd parti. Nid yw’r wefan yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am ddefnyddwyr.

Gwarchod Data

Pan ydych yn cyflenwi gwybodaeth megis eich enw neu gyfeiriad e-bost inni, y mae yna ddyletswydd gyfreithiol arnom dan Ddeddf Gwarchod Data 1998 i sicrhau ein bod ni ond yn defnyddio’r wybodaeth hon er y diben y gofynnwyd amdani, ac i sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel.

Negesfwrdd

Fe gaiff pob sylw’i ddarllen ac fe ellir eu dileu os ydynt yn tramgwyddo yn erbyn ein telerau defnyddio. Ni chaniateir postio sylw neu ddeunydd difrïol neu sydd fel arall yn anghyfreithiol ac sy’n mynd yn groes i’n polisi Bwrdd Siarad. Pan ydych yn anfon sylwadau i’r trafodaethau, fe ellir darllen y rhain gan bawb sy’n mynd i’r dudalen. Y mae’ch enw defnyddiwr cofrestredig yn ymddangos wrth ochr eich sylwadau.

Nid yw barn a safbwyntiau a fynegir ar y negesfwrdd o angenrheidrwydd yn adlewyrchu’r rhai hynny sydd gan y Rhwydwaith Dechrau’n Deg neu Plant yng Nghymru.

Adborth a chwestiynau

Fe ddylid anfon unrhyw sylwadau neu gwestiynau parthed y wefan neu’r polisi hwn at:
Plant yng Nghymru
25 Plas Winsor
Caerdydd
CF10 3BZ
E-bost: info@childreninwales.org.uk.